Llun artist o'r prif lwyfan (Cymdeithas Bel-droed Cymru)
Côr Glanaethwy fydd y perfformwyr cynta’ ar brif lwyfan yr ŵyl i ddathlu rownd derfynol Cynghrair Pencampwyr Ewrop yng Nghaerdydd.

Fe fydd côr plant a ieuenctid o Arfon yn ymddangos y prynhawn yma ar lwyfan sydd wedi ei godi’n arbennig yn y Bae, ger Canolfan y Mileniwm.

Hynny, wrth i’r ddinas baratoi i dderbyn hyd at 170,000 o ymwelwyr ar gyfer y digwyddiad pêl-droed – y digwyddiad chwaraeon mwya’ yn y byd eleni.

Anhrefn traffig

Mae disgwyl anhrefn traffig hefyd wrth i lawer o strydoedd canol Caerdydd gael eu cau ar gyfer dwy rownd derfynol a gŵyl sy’n para tridiau.

Mae cwmni trenau Arriva Cymru wedi gofyn i bobol beidio â theithio ar y trên i’r brifddinas os nac oes gwirioneddol raid.

Maen nhw’n darparu 60,000 o seddi mewn trenau ar gyfer digwyddiadau’r penwythnos.

Rhagor o fanylion

Fe fydd y canwr Mike Peters o’r Alarm ymhlith y perfformwyr a’r DJ Cymraeg Huw Stephens yn un o’r diddanwyr ar y brif noson, y nos Sadwrn.

Mae cae pêl-droed sy’n nofio ar wynen y dŵr yn y Bae ymhlith yr atyniadau mwy annisgwyl ac fe fydd gêm yn cael ei chwarae arno gan rai o hen enwau mawr y gamp.

Fe fydd archfarchnad bêl-droed, oriel ac adnoddau digidol hefyd, yn ogystal â’r ddwy rownd derfynol Ewropeaidd – un y merched heddiw a’r dynion ddydd Sadwrn.