Eady Crawford ar Faes Eisteddfod yr Urdd (Llun: golwg360)
‘Diwrnod y menywod’ yw hi ar faes Eisteddfod yr Urdd heddiw, gyda’r cantorion Eady Crawford ac Ani Glass yn ymddangos ar y llwyfan perfformio.

Mae nifer y menywod ar y Sîn Roc Gymraeg ar gynnydd, ac mae Eady Crawford wedi croesawu’r cyfle i ddathlu “nerth menywod” ar faes yr Eisteddfod trwy chwarae fel rhan o’i phrosiect cerddorol EÄDYTH.

“Mae mwy o artistiaid benywaidd yn chwarae nawr a dw i’n meddwl bod e’n grêt,” meddai wrth golwg360. “Mae’n wych a dw i’n edrych ymlaen at beth sydd i ddod.”

“Mae’r menywod i gyd yn gryf. A ‘da ni isio dangos ein woman power ni. Mae’n grêt, dw i’n edrych ymlaen at bob peth sy’n mynd ymlaen.”

Llwyfan wahanol

Bu Eady Crawford yn cystadlu mewn Eisteddfodau am flynyddoedd cyn iddi ddechrau gigio â’i chwaer y gerddores, Kizzy Crawford, ac mae’n croesawu’r cyfle i berfformio ar lwyfan gwahanol.

“Mae’n teimlo’n neis iawn i fod yma achos pan oeddwn i’n fach oeddwn i’n cystadlu yn yr Eisteddfod ac oedd e mor neis,” meddai.

“O’n i’n dweud wrth Rhodri [ei gitarydd] trwy gydol fy mywyd dw i wedi bod yn cystadlu yn yr Eisteddfod yn yr ysgol a nawr dw i’n perfformio fan hyn.”