A hithau’n ddiwrnod cyhoeddi’r Neges Heddwch ac Ewyllys Da, mae plismyn arfog ar batrôl ar faes Eisteddfod yr Urdd unwaith eto heddiw, wrth i’r ŵyl barhau â mesurau diogelwch llymach nag arfer.

Roedd wyth o blismyn arfog ar y Maes ddydd Llun a phedwar ddydd Mawrth, a heddiw mi fydd dau ohonyn nhw yn ymuno â llond llaw o gwnstabliaid ym Mhencoed er mwyn “cefnogi’r gymuned.”

“Mae’n neis bod ni’n gallu mynd rownd a siarad gyda phobol i wneud i bobol deimlo’n saff,” meddai’r Cwnstabl Heddlu Mirain Davies wrth golwg360. “Yn enwedig o ystyried popeth sydd wedi digwydd yn ddiweddar.”

“Mae mwy [o ddiogelwch] eleni na beth sydd fel arfer. Dim bod ni’n dweud bod rhywbeth yn mynd i ddigwydd, jest fel bod pobol yn teimlo’n saff ac fel bod ni’n gwneud yn siŵr bod popeth yn saff fan hyn hefyd.”

“Pwysicach nag erioed”

Mae mesurau diogelwch hefyd mewn grym wrth fynedfa’r brifwyl, gyda swyddogion staff yn chwilio bagiau ymwelwyr er mwyn atal unrhyw un rhag dod ag arfau neu ddeunyddiau miniog i’r maes.

“Yn amlwg mae [diogelwch] yn fwy pwysig yn awr nag erioed,” meddai’r Swyddog Diogelwch, Gwen Goodridge. “Ry’ ni’n checkio yn fwy aml. Rydym yn fwy parod ac mae pobol eraill yn fwy parod [i wynebu mesurau diogelwch llymach].”