Doedd dim amheuaeth pwy oedd pobol Cymru ei eisiau fel Prif Weinidog pan gafodd Rhodri Morgan ei ethol, yn ôl ei ymgynghorydd arbennig, Kevin Brennan.

Roedd Aelod Seneddol Llafur Gorllewin Caerdydd ymhlith y siaradwyr yn ei angladd dyneiddiol yn y Senedd yng Nghaerdydd, sy’n cael ei gynnal ar hyn o bryd.

Roedd Rhodri Morgan, meddai, “yn deall yn fwy na neb y byddai datganoli’n newid popeth”.

Sefydlu’r Cynulliad

Sefydlu’r Cynulliad, meddai, oedd “genedigaeth Llafur Cymru”, ac fe welai Rhodri Morgan “wir botensial datganoli cyn unrhyw un arall”.

Alun Michael oedd Prif Weinidog cyntaf Cymru, ond fe gafodd Rhodri Morgan ei benodi’n olynydd iddo flwyddyn yn ddiweddarach a bryd hynny, “doedd dim amheuaeth pwy oedd pobol Cymru ei eisiau”, meddai Kevin Brennan.

‘Penderfynol a styfnig’

Ychwanegodd: “Pan oedd ail gystadleuaeth am yr arweinyddiaeth, gwnaethon nhw bopeth ar y lefel uchaf i’w atal e. Ond os gellir dweud bod Rhodri’n unrhyw beth, roedd e’n benderfynol.

“Ac roedd e’n styfnig. Roedd e’n credu’n gryf mai fe oedd y person cywir i sicrhau bod datganoli’n llwyddo yng Nghymru.

“Ac roedd e’n gwybod, er mwyn i ddatganoli lwyddo yng Nghymru, nid yn unig fod rhaid i’r arweinydd fod o Gymru, ond fod angen iddo gael ei greu yng Nghymru.”