Carwyn Jones
Does dim Llywydd y Dydd yn Eisteddfod yr Urdd heddiw (Mai 31) oherwydd angladd cyn-Brif Weinidog Cymru, Rhodri Morgan.

Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru, oedd i fod yn Llywydd y Dydd heddiw, ond mae wedi newid i ddydd Gwener er mwyn bod yn bresennol yn y Bae i gyflwyno cerdd ‘Do Not Go Gentle…’ gan Dylan Thomas.

Yn Aelod Cynulliad dros Ben-y-bont ar Ogwr ers 1999 cafodd Carwyn Jones ei addysg yn Ysgol Gyfun Brynteg ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Y cerddor, actor a’r cyflwynydd Martyn Geraint fydd Llywydd y Dydd yfory, ac maen dilyn Aled Siôn Davies a Laura McAllister fu’n llywyddion ddoe.

Mae gwasanaeth angladdol Rhodri Morgan yn cael ei gynnal yn y Senedd ym Mae Caerdydd heddiw, gyda gwasanaeth cyhoeddus hefyd yng Nghapel y Wenallt yn Amlosgfa Thornhill, Caerdydd, am 2 o’r gloch yfory.