Prys Morgan yn angladd ei frawd, Rhodri Morgan
Mewn teyrnged gynnes i’w frawd bach yn y Senedd ym Mae Caerdydd heddiw, mae’r Athro Prys Morgan wedi addo bod “mwy o aur” i ddod o law Rhodri Morgan.

Mae ei hunangofiant eisoes yn y wasg, meddai, ac mae’n addo y bydd y gyfrol honno’n llawn i’r ymylon o hanesion difyr am ei fywyd gwleidyddol a phersonol.

Fe fu’r ddau’n cydweithio hefyd ar ffilm am eu hen-ewythr, Morgan Watkin, a fu’n ysbiwr yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Ac, wrth gwrs, meddai Prys Morgan, fe fydd yr hyn a ddigwydd yn y Senedd, a sut y bydd datganoli yn datblygu yn y Bae, yn rhan o’i waddol hefyd – yn y gobaith y bydd yn fath radical o ddemocratiaeth “a allai ddangos y ffordd i weddill gwledydd y byd”.

Mewn anerchiad oedd yn pendilio o’r digrif i’r dwys – yn cyfeirio at ei blentyndod yn casglu jocs i’w gwerthu i’r Beano a’r uchelgais o fod yn seren stand-yp – i’r dyfnder gwybodaeth a’i wleidyddiaeth. Ac roedd dylanwad eu tad, yr Athro T J Morgan, arnyn nhw ill dau.