Mae Heddlu Gwent yn apelio am wybodaeth ar ôl i ddiesel gael ei ddwyn o lorïau ym Mrynmawr nos Lun.

Roedd y cerbydau wedi’u parcio mewn iard ar ystad ddiwydiannol Blaenant ar Ffordd Blaenafon ar y pryd.

Mae’r heddlu’n awyddus i siarad â dau ddyn sydd i’w gweld mewn lluniau cylch-cyfyng.

Maen nhw hefyd yn apelio am wybodaeth am gar Ford Focus arian oedd y tu allan i’r iard am oddeutu 8.50pm nos Lun.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.