Siwan Elenid
Mae myfyrwraig ymchwil ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi dod o hyd i “gymaint o drysorau diddorol” ers dechrau ar ei hymchwil yn archifo dogfennau hanner canrif diweddaraf Urdd Gobaith Cymru.

Un o’r trysorau pennaf i Siwan Elenid, sy’n wreiddiol o Langwm, ddod ar eu traws oedd llythyr yn llawysgrifen ei nain yn un o focsys Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

“Dyna oedd y bocs cyntaf imi agor, a llythyr gan eneth fach 12 mlwydd oed oedd o yn gofyn am ei barddoniaeth yn ôl,” meddai wrth golwg360.

“Mi wnes i adnabod yr ysgrifen, ac o sbïo yn fanylach wnes i ddeall mai nain oedd hi,” meddai gan esbonio i’w nain gystadlu yn Eisteddfod yr Urdd yn Y Bala, 1954.

Apêl am straeon

Ers hynny, mae’r fyfyrwraig wedi dod o hyd i amryw o drysorau, ond mae’n galw am gyfraniadau pellach wrth lansio apêl am straeon ar faes yr Eisteddfod.

“Maen siŵr bod ’na gymaint o stwff ar gael gan bobol, ac mae angen rhywbeth i ddangos cymeriad yr Urdd – fedrwch chi ddim cyfleu cymeriad mudiad o gofnodion materol yn unig,” meddai.

Mae ei hymchwil yn cyfrannu at baratoadau canmlwyddiant yr Urdd yn 2022, lle mae tair cyfrol o hanner canrif gynta’r Urdd eisoes wedi’u cofnodi gan yr awdur R E Griffith.

Bydd yn parhau â’u hymchwil am y flwyddyn nesaf fydd yn cyfrannu at ei gradd MPhil gyda Phrifysgol Aberystwyth.