Y diweddar Irfon Williams (Llun: S4C)
Bu farw Irfon Williams, y cyn-nyrs o Fangor a dreuliodd flynyddoedd olaf ei fywyd yn ymgyrchu tros hawliau dioddefwyr canser i gael mynediad at gyffuriau a allai ymestyn hyd eu hoes. Roedd yn 46 oed.

Ddechrau’r mis hwn, mewn rhaglen ddogfen o’r enw  O’r Galon: Irfon Williams ar S4C, fe fu’n adrodd hanes blwyddyn yn ei fywyd wrth iddo hefyd ysgrifennu llyfr.

“Mae codi ymwybyddiaeth yn bwysig ofnadwy,” meddai yn y rhaglen honno, ac ef ei hun wedi brwydro trwy’r ymgyrch #Hawlifyw yn erbyn meddygon a llywodraeth oedd ddim yn fodlon rhoi cyffuriau arbrofol iddo.

Erbyn hyn, mae llywodraeth Cymru yn caniatau i gleifion canser y coluddyn gael eu trin â chyffur Cetuximab.

Roedd Irfon Williams yn dad i bump o blant – rhwng 6 a 22 oed – ac roedd newydd gael clywed fod Gorsedd y Beirdd yn mynd i’w urddo’n aelod yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Ynys Mon ym mis Awst eleni.