Mae angen i Gyngor Pen-y-bont ar Ogwr “weithredu ar frys” er mwyn gwella’r ddarpariaeth addysg a chodi ysgolion newydd yno, yn ôl mudiad Rhieni dros Addysg Gymraeg.

Daw’r alwad wrth i Eisteddfod yr Urdd ymweld â’r ardal yr wythnos hon.

Mae prinder ysgolion cynradd yn y sir, yn ôl RhAG, a dim ond ym mhen pellaf gogleddol y sir y mae ysgol uwchradd ar gael.

Mae’r mudiad yn dadlau mai “ychydig iawn sydd wedi digwydd” yn y sir ers degawdau, heblaw am sefydlu Ysgol Gyfun Llangynwyd yn 2008.

Mae’r mudiad am weld…

· Symud Ysgol Gyfun Llangynwyd i safle canolog yn y sir;

· Sefydlu ysgol gynradd newydd neu sefydlu ysgol 3-19 oed;

· Sefydlu ysgolion cynradd Cymraeg newydd ym Mhorthcawl ac yn ne-orllewin tref Pen-y-bont ar Ogwr;

· Cael rhagor o ddarpariaeth yn ardal Pencoed, gan fod ysgol y Dolau yn Rhondda Cynon Taf yn llawn.

Darpariaeth yn anghyson

Mae Cadeirydd RhAG ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Lisa Wilson, yn dweud fod anghysonderau yn narpariaeth Pen-y-bont ar Ogwr o’i chymharu â Bro Morgannwg.

Mae 140,000 o bobol yn byw yn sir Pen-y-bont, oddeutu 13,000 o bobol yn fwy na Bro Morgnnwg. Tra bod gan Fro Morgannwg saith ysgol gynradd, dim ond pedair sydd yn sir Pen-y-bont.

“Yn ôl Cyfrifiad 2011 mae tua 10% o boblogaeth y ddwy sir sy’n siarad y Gymraeg, ond mae’r Fro’n paratoi’n fwy effeithiol ar gyfer y dyfodol,” meddai Lisa Wilson.

“Mae tair o’r pedair ysgol yn llawn neu o fewn 10% o gyrraedd eu capasiti, ond does dim cynigion gan Gynllun Datblygu Addysg Gymraeg y sir i ddatrys hyn.

“Mae Ysgol Bro Ogwr wedi bod o dan ei sang ers blynyddoedd, ac mae plant wedi cael eu gwrthod yn sgil hyn.

“Mae bron 30 mlynedd wedi mynd heibio ers agor yr ysgol gynradd ddiwethaf, a’r Sir wedi methu â chymryd camau breision, gwaetha’r modd a hynny’n debyg i sir gyfagos Castell-nedd Port Talbot.

“Edrychwn ymlaen at weld twf addysg Gymraeg ym Mhen-y-bont yn sgil targedau uchelgeisiol Llywodraeth Cymru ac ymrwymiad y Prif Weinidog, Carwyn Jones, sy’n cynrychioli Pen-y-bont, i addysg Gymraeg.”

Sefyllfa addysg y sir

Ar hyn o bryd mae pedair ysgol gynradd ac un ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg yn Sir Pen-y-bont ar Ogwr:

· Y Ferch o’r Sger, Corneli

· Cynwyd Sant, Maesteg

· Bro Ogwr, Bracla

· Cwm Garw, Pontycymer

· Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd

Cafodd Ysgol Gymraeg Tyderwen, Maesteg, ei hagor yn 1948 – yn un o ysgolion Cymraeg cynta’r de.

Cafodd uned Gymraeg y Coety ei hagor yn 1962 cyn ei symud i Ben-y-bont yn 1974, ac fe gafodd Ysgol y Ferch o’r Sger ei hagor yn 1982, a Chwm Garw yn 1988.