Mae dyn wedi’i gyhuddo o geisio cipio plentyn yn dilyn digwyddiad yn y Tŷ Du ger Casnewydd ar 20 Mai.

Roedd Heddlu Gwent wedi apelio am wybodaeth ar ôl i yrrwr fan goch fynd at ferch yn ei harddegau yng Nghilgant Sant Ioan, yn  y Tŷ Du ddydd Sadwrn, 20 Mai.

Mae dyn 25 oed o Gasnewydd wedi’i gyhuddo o geisio cipio plentyn ac mae’n cael ei gadw yn y ddalfa.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad hwn, neu ddigwyddiadau tebyg, ffonio 101 gan ddyfynnu’r cyfeirnod 399 21/5/17.