Beth Williams-Jones, (Llun: o'i chyfrif Twitter)
Mae un o brif glocswyr Cymru yn anhapus bod grŵp stepio wedi cael ail wobr yn Eisteddfod yr Urdd gyda sawl enghraifft o stepiau Seisnig yn rhan o’u perfformiad.

Roedd Beth Williams-Jones, sy’n clocsio dros y byd gyda’r grŵp gwerin Calan, wedi cwyno ar Facebook a Twitter neithiwr ar ôl gwylio’r gystadleuaeth Grŵp Stepio Blwyddyn 6 ac iau ar y teledu.

Dywedodd: “Pam fod partïon dawns yn cael eu gwobrwyo am beidio dawnsio yn yr arddull Gymreig?  Dyma un o ofynion y cystadlaethau clocsio! Stepiau o Loegr ar lwyfan yr eisteddfod? Be nesa? Unawdau canu yn Saesneg hefyd?”

“Mae yna ganllawiau y maen nhw fod i’w dilyn,” eglurodd y clocsiwr wrth golwg360 heddiw. “Dim bai’r plant yw e, o gwbl. Maen nhw wedi cael eu dysgu i wneud rhywbeth a dyna beth maen nhw’n ei wneud. Faswn i byth mo’yn dweud wrth rywun ‘peidiwch â chlocsio’… ond dyw e ddim yn deg ar y grwpiau sy’n dilyn y rheolau ac sy’n gweld grwpiau sydd ddim yn dilyn y rheolau yn cael gwobr.”

“Clocsio yn iaith ynddi’i hun”

Ychwanegodd: “D’ych chi ddim yn cael mynd mlaen a chanu unawd yn Saesneg yn yr Eisteddfod, felly pam ei fod e’n wahanol i’r clocsio? Mae’r clocsio yn iaith yn ei hun, a chlocsio Cymreig yn wahanol  iawn i glocsio o Loegr.”

Doedd hi ddim am feirniadu’r plant oedd yn cystadlu – roedd hi’n rhoi’r bai yn bendant ar y beirniaid.

“Mae Eisteddfod yr Urdd i blant ac i fod yn hwyl,” meddai. “Dw i ddim mo’yn nhw boeni am hyn, ond efallai os ydyn nhw’n ei wneud e unwaith, tynnwch ambell i farc a gwnewch nodyn yn y feirniadaeth. Ond mi wnaeth hyn ddigwydd ddoe nifer o weithiau gan yr un grŵp, ac mae hwnna’n ormod wedyn.”

Ymatebodd Sioned Page o Ddawnswyr Talog a Chymdeithas Dawnsio Gwerin Cymru i’w neges ar Twitter: “Mae’r Gymdeithas yn chwilio aelodau newydd i’r pwyllgor o hyd. Yn y cyfarfodydd yna sydd angen codi hwn ac nid tu ôl i dudalen Twitter.”

Dywedodd wedyn: “Mae yn mynd i hala amser i gal y neges mas dyna’i gyd! Angen bach o amynedd i bawb gael y neges! Mae’r gymdeithas yn darparu cyrsiau beirniadu.”

Canlyniad y Gystadleuaeth Dawns Stepio Grŵp Blwyddyn 6 ac iau oedd – 1 Adran Penrhyd, Cylch Dyffryn Aman; 2 Ysgol Gynradd Brynsaron, Cylch Llandysul; 2 Bro Taf Mawr, Adran Bro Taf.