Mae dyn 48 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddio ar ôl i ddyn 19 oed gael ei drywanu i farwolaeth yng Nghei Conna.

Cafodd swyddogion Heddlu’r Gogledd eu galw i eiddo yn Bethel Place,, Cei Conna toc cyn 8yh nos Lun, 29 Mai yn dilyn adroddiadau am ddigwyddiad difrifol.

Er gwaethaf ymdrechion parafeddygon a swyddogion yr heddlu, bu farw’r dyn yn y fan a’r lle. Nid oedd y dyn yn dod o’r ardal leol.

Mae’r crwner wedi cael ei hysbysu ac fe fydd archwiliad post mortem yn cael ei gynnal yn ddiweddarach heddiw.

Mae’r dyn 48 oed a gafodd ei arestio yn cael ei gadw yn y ddalfa.

Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Arwyn Jones eu bod yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â nhw.

“Rwy’n ymwybodol bod y digwyddiad yma wedi digwydd yng ngolau dydd, ger tafarn ac felly, mae’n debygol iawn bod nifer fawr o bobl yn yr ardal ar y pryd.

“Hoffwn ofyn i unrhyw un a glywodd unrhyw beth, fel sgrechian, gweiddi neu wrthdaro, a oedd efallai heb feddwl ddwywaith am y peth ar y pryd, i gysylltu â ni.”

Ychwanegodd na ddylai’r ffaith bod dyn yn cael ei gadw yn y ddalfa atal unrhyw un gyda gwybodaeth rhag mynd at yr heddlu.

“Hoffwn sicrhau’r cyhoedd nad yw hyn yn ddigwyddiad yn ymwneud a brawychiaeth ond fe fydd presenoldeb sylweddol gan yr heddlu yn yr ardal wrth i’r ymchwiliad barhau.”

Mae teulu’r dyn wedi cael gwybod am ei farwolaeth ac yn cael cymorth gan swyddogion cyswllt teulu arbenigol.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio’r heddlu ar 101 neu Taclo’r Taclau ar 0800 555 111 gan nodi’r cyfeirnod V078270.