Cynlluniau drafft ar gyfer gwersyll yr Urdd Llangrannog
Mae gwersyll yr Urdd Llangrannog wedi cadarnhau eu bod wedi penodi penseiri i adnewyddu rhan o’r gwersyll.

Fel rhan o’r cynlluniau fe fyddan nhw’n adnewyddu’r rhan sy’n cael ei adnabod yn “galon y gwersyll” sy’n cynnwys y caban bwyta, neuadd ymgynnull a’r gegin.

Fe fydd y buddsoddiad yn costio £3m i gyd ac maen nhw’n chwilio am grantiau cyfatebol ar gyfer traean o’r gyllideb.

Mae’r gwersyll yn cynnal ymgynghoriad ar y datblygiad ar faes Eisteddfod yr Urdd yr wythnos hon gyda chyfle i bobol weld cynlluniau drafft y cwmni penseiri Purcell.

“Mae gan y cabanau pren hanes arbennig a’n gweledigaeth yw creu calon newydd i’r gwersyll fydd yn cyfoethogi profiad pobol ifanc,” meddai Lowri Jones, Cyfarwyddwr Gwersyll Llangrannog.

“Mae’r gwersyll yn cynnig gymaint o ran llesiant plant a phobol ifanc Cymru, ac mae’n rhan fawr o fywyd y genedl,” meddai wedyn.