Y dysgwyr Kayleigh Jones, Rebecca Jones a Sophie James (Llun: golwg360)
Tair merch o Ystalyfera, Aberdâr a Chaerdydd sy’n cystadlu am wobr Medal y Dysgwyr yn Eisteddfod yr Urdd eleni.

Fe fydd y wobr yn cael ei dyfarnu yn y brif seremoni heddiw am 4yh, ond cyn hynny fe fydd raid i’r cystadleuwyr gwblhau amryw o dasgau ar y maes yn ystod y dydd.

Un o’r tasgau yw cyflwyno Llywyddion y Dydd yn y gynhadledd i’r wasg, a daw hyn wedi i’r Urdd newid y drefn y llynedd gan roi mwy o bwyslais ar gyfathrebu yn hytrach na llunio darnau ysgrifenedig.

Beirniaid y gystadleuaeth eleni yw Eirian Conlon a Gina Morgan.

Pwy yw’r tair?

Daw Kayleigh Jones o Ystalyfera a bydd yn dechrau ar gwrs TAR i athrawon uwchradd ym Mhrifysgol Abertawe ym mis Medi gan hyfforddi i ddod yn athrawes Gymraeg.

Un o Aberdâr yw Rebecca Jones a graddiodd â gradd dosbarth gyntaf yn y Gymraeg o Brifysgol Abertawe’r llynedd. Dywed iddi gael ei hysbrydoli gan ei darlithydd, y cyn-Archdderwydd Christine James.

Ar hyn o bryd mae Sophie James yn astudio Cymraeg, Ffrangeg a Saesneg ar gyfer ei Lefel A yn Ysgol Uwchradd Caerdydd – ac mae’n gobeithio mynd i Brifysgol Bangor flwyddyn nesaf.