Andrew RT Davies (Llun: Ceidwadwyr Cymreig)
Bydd gwleidyddion o’r pum prif blaid yng Nghymru yn mynd benben â’i gilydd heno yn ystod y ddadl deledu fyw olaf cyn yr etholiad cyffredinol ar 8 Mehefin.

Yn cynrychioli eu pleidiau fydd Arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood; Arweinydd y Blaid Lafur yng Nghymru, Carwyn Jones; Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, Mark Williams ac Arweinydd UKIP yng Nghymru, Neil Hamilton.

Ond y llefarydd addysg Darren Millar fydd yn cynrychioli’r blaid Geidwadol yn lle arweinydd y blaid, Andrew RT Davies.

Dywedodd llefarydd ar ran y Ceidwadwyr yng  Nghymru nad oedd Andrew R T Davies yn gallu cymryd rhan yn y ddadl heno oherwydd mater teuluol.

Bydd rhaglen BBC Cymru Leader’s Debate yn cael ei darlledu’n fyw o Abertawe am 8.30yh nos Fawrth, 30 Mai gyda’r darlledwr Huw Edwards, yn cyflwyno.

Daw rhaglen heno yn sgil dadl a gafodd ei darlledu gan ITV ar ddechrau’r mis, lle’r oedd Andrew RT Davies yn bresennol a Brexit oedd y prif bwnc trafod.