Arweinydd y Blaid Werdd yng Nghymru, Grenville Ham (Llun: O'i gyfrif Twitter)
Dechrau “chwyldro gwyrdd” yw addewid y Blaid Werdd yng Nghymru wrth iddyn nhw lansio eu maniffesto yng Nghaerdydd heddiw.

Fe fydd ydd arweinydd y blaid yng Nghymru, Grenville Ham, yn honni bod problemau newid hinsawdd yn fwy o her na Brexit.

Bydd yn addo “economi newydd” gydag ynni adnewyddadwy fel ei sail, fydd yn “darparu swyddi i bobol ifanc … a chyllid i grwpiau cymuned a ffermwyr.”

Mae disgwyl bydd y blaid yn cyhoeddi cynllun Incwm Sylfaenol Cyffredinol, fyddai’n golygu bod pob dinesydd yn derbyn incwm, os ydyn nhw’n gweithio neu beidio.

Enillodd y Blaid Werdd un sedd yn Lloegr yn dilyn etholiad cyffredinol 2015, ac maen nhw’n bwriadu ymgeisio am 10 o’r 40 etholaeth yng Nghymru.