Llun: Heddlu'r Gogledd
Dywed Heddlu’r Gogledd eu bod nhw wedi bod yn delio gyda digwyddiad difrifol yng Nglannau Dyfrdwy.

Cafodd yr heddlu eu galw tua 8yh nos Lun, 29 Mai, yn dilyn digwyddiad yn y Stryd Fawr.

Mae eu hymchwiliad i’r digwyddiad yn parhau ac maen nhw wedi bod yn holi o ddrws i ddrws.

Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd  Dan Tipton eu bod nhw eisiau sicrhau’r gymuned leol nad oes unrhyw risg iddyn nhw a bod y sefyllfa “o dan reolaeth ond nad yw’n bosib datgelu rhagor o fanylion gan fod yr ymchwiliad yn parhau.”

Does dim rhagor o fanylion ar hyn o bryd.