Y ddau heddwas, mewn sioc! (Llun: Heddlu Dyfed-Powys)
Fe gafodd dau blismon arfog sy’n gweithio i Heddlu Dyfed-Powys, dipyn o sioc ben bore heddiw, tra’r oedden nhw ar batrôl yn ardal Caerfyrddin.

Roedd PC Darren Trevan a PC John Woodcock yn meddwl eu bod nhw wedi dod ar draws modurwr oedd yn gor-yrru… nes iddyn nhw ddeall pam ei fod â’i droed mor galed ar y sbardun.

O gael golwg y tu mewn i’r car, fe sylwodd y ddau heddwas fod cymar y gyrrwr yn wraig feichiog oedd ar fin esgor.

Dyna pryd y penderfynodd y PC Darren Trevan gymryd llyw y car, a gyrru’r car i’r ysbyty agosaf. Fe gafodd ei dywys bob cam trwy’r traffig gan ei gydweithiwr, tra bod gyrrwr gwreiddiol y cerbyd yn cael symud i’r sedd gefn at ei bartner.

Fe anwyd mab bach i’r cwpwl yn fuan iawn wedyn. Mae’r fam, y tad a’r baban yn iach…. tra bod y ddau heddwas, medden nhw, yn dal i ddod atyn nhw’u hunain ac yn dioddef o sioc.