Amy Wadge, Llywydd Eisteddfod yr Urdd dydd Llun (Llun golwg360)
Newydd deithio’n ôl o’r Unol Daleithiau oedd Llywydd y Dydd Eisteddfod yr Urdd dydd Llun (Mehefin 29) lle mae’n cydweithio ag artistiaid pop gan gynnwys Paloma Faith, Jess Glynne a Nick Jonas.

Dywedodd y gantores Amy Wadge ar faes Pen-coed fod llawer o bobol yn gwybod am “draddodiad diwylliedig y Cymry” ond nad ydyn nhw’n sylweddoli “fod gennym wyliau ac amser penodedig i ddathlu hynny bob blwyddyn”.

A hithau’n rhannu’i hamser rhwng Llantrisant ac America, esboniodd fod ganddi ddwy o ferched a bod ei merch hynaf, Mali 9 oed, yn rhan o gân actol Eisteddfod yr Urdd gydag Ysgol Garth Olwg.

“Dw i eisiau annog fy mhlant i fod yn rhan o’r diwylliant yma yng Nghymru,” meddai wrth golwg360 gan esbonio ei bod hithau’n dysgu Cymraeg.

“Mae llawer o bobol â diddordeb mawr ac yn cael eu cyfareddu gan ein diwylliant pan dw i’n sôn amdano,” meddai wedyn.

Ed Sheeran

Esboniodd ei bod yn parhau i gydweithio â’r artist Ed Sheeran lle mae wedi ennill gwobrau yn y gorffennol am gyd-gyfansoddi’r gân Thinking Out Loud.

Ond wrth i’r cerddor wynebu materion o ran hawlfraint y caneuon dywedodd Amy Wadge wrth golwg360 nad yw hi’n “poeni am hynny.”

“Dyw hynny ddim yn rhywbeth dw i’n gallu siarad amdano, ond dw i ddim yn poeni amdano.”