Mr Urdd gyda chwpanau Ewrop ar faes Pen-coed
Mae ymgyrch newydd wedi’i lansio ar faes Eisteddfod yr Urdd heddiw rhwng y mudiad ieuenctid â Chymdeithas Pêl-droed Cymru i annog mwy o bobol ifanc i droi at bêl-droed.

Bwriad y bartneriaeth yw cynyddu’r nifer o bobol ifanc sy’n chwarae pêl-droed o 50% – gan obeithio denu 1,000 o bobol ifanc ym mlwyddyn gynta’r ymgyrch.

Yn rhan o hynny mae cwpanau Cynghrair y Pencampwyr yn cael eu harddangos yn Adran Chwaraeon Eisteddfod yr Urdd heddiw cyn dychwelyd i Gaerdydd ar gyfer y bencampwriaeth y penwythnos hwn.

Ymestyn ar ‘ddwyieithrwydd y gamp’

Dywedodd Ian Gwyn Hughes, Pennaeth Cyfathrebu Cymdeithas Pêl-droed Cymru, fod dod ô’r tlysau i’r Eisteddfod yn gyfle i “ymestyn ar y gwaith o ddatblygu dwyieithrwydd y gamp.”

“Llynedd roedd Cymru allan ar lwyfan Ewrop – ond mae Ewrop yn dod ato ni eleni. Rydan ni fel petaen ni’n gwahodd UEFA ac Ewrop i Gaerdydd ac i Gymru,” meddai wrth golwg360.

“Ry’n ni’n ymwybodol o’r gwaith rydan ni wedi gwneud o ran dwyieithrwydd y gamp yng Nghrymu, ac mae’n gyfle i ymestyn ar hynny drwy ddod yma i Eisteddfod yr Urdd.”

Cymru v Serbia

Dywedodd fod carfan tîm pêl-droed Cymru yn paratoi at herio Serbia yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd 2018 ar Fehefin 11.

“Does yna ddim Gareth Bale, ond mae Aaron Ramsey i weld ar ben ei ddigon ar y funud,” meddai Ian Gwyn Hughes gan gyfeirio at ei gamp yn cyfrannu at fuddugoliaeth Arsenal yng Nghwpan yr FA dros y penwythnos.

Wrth gyfeirio at gêm Serbia dywedodd – “y prif beth ydi peidio colli – dw i ddim yn gwybod os wnawn ni ennill, ond yn sicr dan ni ddim isio colli,” meddai.