Mae modd i gymunedau ym Mhowys wneud ceisiadau am hyd at £5,000 er mwyn atgyweirio a chynnal cofebion sy’n coffáu’r Rhyfel Byd Cyntaf.

Trwy Brosiect Cofebion Rhyfel Powys gall cymunedau’r sir dderbyn cyllid i ariannu pob math o gofebion gwahanol gan gynnwys obelisgau carreg, ffenestri gwydr lliw, cerfluniau a neuaddau.

Mae’r prosiect dan ofal Cyngor Sir Powys ac wedi’i ariannu gan Gronfa Treftadaeth y Loteri, Cadw ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

“Cyfle i gofio”

“Mae Prosiect Cofebion Rhyfel Powys yn dangos arwydd o barch i’r unigolion hynny a adawodd Powys gan aberthu eu bywydau,” meddai Pennaeth Gwasanaethau Adfywio a Rheoleiddio’r Cyngor Powys, Sue Bolter.

“Mae cofebion yn rhan annatod o unrhyw dref, pentref a chymuned, ac yn cynnig canolbwynt ar gyfer y cofio.  Mae’r arian yn rhoi cyfle i Bowys gofio a sicrhau bod y cofebion yn cael eu gwarchod a’u diogelu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”