Mae pryderon dros nifer y cwynion gafodd eu gwneud am Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn y gogledd.
Cododd Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, Nick Bennett, y pryderon ar ôl derbyn 194 o gwynion am y bwrdd iechyd rhwng mis Ebrill 2016 a mis Mawrth 2017.
Yn ystod y cyfnod hwnnw, cafodd 702 o achosion eu datrys ledled Cymru, gyda’r ail nifer fwyaf ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg – 107.
Bu 102 yn cwyno am Fwrdd Iechyd Hywel Dda a 93 yn cwyno am Fwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro.
£115,429.11 oedd y cyfanswm a gafodd ei dalu gan Fyrddau Iechyd Cymru mewn iawndal i achwynwyr rhwng 2016 a 2017.
Mae’r ffigwr yn cynnwys £61,999.11 a ddaeth o boced Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.
Mae’r bwrdd iechyd wedi ymateb drwy ddweud ei fod yn cymryd pob cwyn o ddifrif ac y bydd yn ceisio dysgu gwersi.
“Angen dysgu gwersi”
“Dw i’n poeni am nifer y cwynion a’r canlyniadau yn erbyn Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr dros y 12 mis diwethaf,” meddai’r Ombwdsmon, Nick Bennett.
“Y llynedd wnes i gyflwyno pum adroddiad o ddiddordeb cyhoeddus ledled Cymru ac roedd tri o’r rheini yn cynnwys yr un ysbyty – Ysbyty Glan Clwyd.
“Tra bod gwasanaethau cyhoeddus yn wyneb pwysau newydd, mae’n hanfodol bod gwersi’n cael eu dysgu pan fo pethau’n mynd o le.
“Rydym wedi neilltuo Swyddog Gwelliant i weithio gyda’r bwrdd iechyd a gobeithio y bydd cwynion yn cael eu hymdrin yn well o ganlyniad i hynny.
“Yn ogystal, byddwn yn cynnal seminar Delio â Chwynion Iechyd fis nesaf, lle mae disgwyl i gynrychiolwyr y Bwrdd Iechyd fynd iddo.”
Ymateb Betsi Cadwaladr
Dywedodd Gill Harris, Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio a Bydwreigiaeth: “Rydym yn cymryd pob cwyn o ddifri ac rydym yn gwerthfawrogi’r cyfle maen nhw’n ei roi i ni ddynodi ffyrdd o wella ein gwasanaethau.
“Mae gennym berthynas waith agos â swyddfa’r Ombwdsmon a byddwn yn parhau i gysylltu â’n swyddog gwelliant dynodedig i sicrhau ein bod yn datblygu’r ffordd rydym yn delio â chwynion a phrosesau dysgu ymhellach. Rydym hefyd yn adolygu ein gweithdrefnau profiadau cleifion a chwynion.
“Byddwn yn mynychu Seminar Delio â Chwynion Iechyd Cymru Gyfan ac edrychwn ymlaen at y profiadau dysgu fydd yn ei darparu.”