Canolfan y Quadrant (llun parth cyhoeddus)
Mae dyn wedi cael ei gyhuddo o ffugio gadael bom mewn canolfan siopa, a hynny lai na deuddydd ers y ffrwydrad ym Manceinion.

Fe fydd yn ymddangos o flaen llys yn Abertawe heddiw ar ôl y digwyddiad yng Nghanolfan y Quadrant yng nghanol y ddinas.

Fe fu’n rhaid clirio’r ganolfan ar ôl adroddiadau fod pecyn amheus wedi ei adael yno.

Y cyhuddiad ffurfiol yn erbyn y dyn 21 oed yw ei fod wedi “gadael gwrthrych gyda bwriad”.

Effaith

Fe bwysleisiodd un o benaethiaid Heddlu De Cymru bod digwyddiadau o’r fath yn cael “effaith sylweddol” ar gymunedau, busnesau a’r gwasanaethau brys.

“Mae’r heddlu’n trin digwyddiadau maleisus a ffugio yn ddifrifol iawn,” meddai’r Prif Arolygydd Esyr Jones. “Maen nhw’n llyncu adnoddau’r heddlu ac yn achosi anhwylustod ac ofn i’r cyhoedd.”

Dau ddigwyddiad arall

Mae Heddlu Gwent bellach yn dweud nad oedd elfen frawychol mewn dau ddigwyddiad yn ninas Casnewydd dros nos.

Roedd swyddogion arbenigol wedi eu galw i Friar’s Walk a phont George Street ar ôl adroddiadau am wrthrych a char amheus.

Fe gafodd strydoedd cyfagos eu cau dros nod ond, yn ôl yr heddlu, mae’r ddau ddigwyddiad dan reolaeth a does dim cysylltiad brawychol.