Arweinwyr y Democratiaid Rhyddfrydol ar ddechrau'r ymgyrch (:Llun Dem Rhydd)
Fe fydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig yn lansio eu maniffesto heddiw gan addo “Cymru gref, agored a goddefgar”.

Yn y maniffesto bydd y blaid yn ymrwymo i sicrhau refferendwm dros gytundeb terfynol Brexit a fyddai’n cynnig yr opsiwn o wrthod y cytundeb ac aros yn yr Undeb Ewropeaidd.

Wrth siarad cyn y lansiad yn y Gelli Gandryll, dywedodd Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Mark Williams, bod y blaid yn addo “economi fydd yn gweithio er budd pawb.”

“Newid Dyfodol Cymru”

“Bydd cytundeb Brexit sâl, gyda Phrydain yn gadael y Farchnad Sengl, yn drychinebus i ddyfodol ein plant, ein heconomi ac ein hysgolion a’n ysbytai,” meddai Mark Williams.

Mae’r neges Gymreig yn adleisio prif neges y blaid yn ei hymgyrch Brydeinig.