Mae undeb ffermwyr wedi’i siomi gyda thoriad pellach i bris llaeth yr wythnos hon.

Yn ol NFU Cymru, mae’r ffaith bod cwmni prosesu llaeth UK Arla Farmers bellach yn talu 0.4c y litr yn llai i gynhyrchwyr, yn “sioc” – yn enwedig ar ddiwrnod pan gyhoeddwyd bod gwerthiant cynnyrch fel menyn ar ei uchaf.

“Dim ond y mis diwethaf y gwnaethon ni ganmol UK Arla Farmers am gefnogi ein haelodau yng Nghymru a gwledydd eraill Prydain,” meddai Aled Jones, Cadeirydd Bwrdd Llaeth yr undeb.

Yr wythnos ddiwethaf, cafodd ymwelwyr â chynhadledd i’r diwydiant llaeth wybod bod marchnadoedd menyn yr Undeb Ewropeaidd yn llewyrchus iawn, gan ragweld prisiau yn codi i 5,400 a 5,500 ewro (neu £4,720) ar gyfer misoedd Mehefin a Gorffennaf.

“Hoffem i wybod pwy sy’n manteisio ar y prisiau uchel hyn, oherwydd nid y ffermwyr llaeth ydyn nhw,” meddai Aled Jones wedyn.

“Gyda phrisiau’n codi ar ochr y farchnad, mae yna ddisgwyliadau i hyn ddigwydd ar yr ochr gyflenwi yn ogystal. Os bydd gennym ni farchnad mwy tryloyw bydd hyn yn adeiladu ymddiriedaeth ar draws y gadwyn gyflenwi.”