Mae Heddlu De Cymru wedi cadarnhau fod dyn wedi’i arestio mewn cysylltiad â phecyn “amheus” a gafodd ei adael yng nghanolfan siopa’r Cwadrant yn Abertawe.

Fe gafodd y ganolfan ei chau am rai oriau yn dilyn adroddiadau fod pecyn amheus wedi cael ei ddarganfod yno.

Fe fu gorsaf fysiau a marchnad hefyd ar gau tra’r oedd yr heddlu’n ymchwilio.

Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu eu bod wedi derbyn adroddiadau am y pecyn toc wedi 2yp brynhawn Mercher.