Mae ymgyrchwyr yn Ynys Môn wedi ymateb i gyhoeddiad cwmni Horizon eu bod yn bwriadu torri costau adeiladu dau adweithydd niwclear yn yr Wylfa.

Mae mudiad Pobol Atal Wylfa B (PAWB) wedi cyhuddo’r cwmni o “gyfaddawdu diogelwch” ac o dorri costau oherwydd diffyg “awydd i fuddsoddi.”

Hefyd mae’r mudiad wedi cyfleu pryderon am wastraff ymbelydrol fydd yn cael ei gadw ar y safle – rhywbeth fyddai’n wael i “lles twristiaeth” y sir yn ôl yr ymgyrchwyr.

Yn ôl datblygwyr yr orsaf newydd gwerth £10 biliwn, dan y cynlluniau newydd mi fydd y brif orsaf bŵer ychydig yn llai ac mi fydd mwy o adeiladau rhwng y ddau adweithydd.

Apêl i Horizon

“Dwysau mae’r problemau ariannol a phrinhau mae’r awydd i fuddsoddi,” meddai’r ymgyrchydd PAWB, Dylan Morgan. “Dyna’r gwir reswm dros geisio torri costau yn yr achos hwn.”

“Apeliwn ar Hitachi/Horizon i gymryd y cam synhwyrol a thynnu allan o’r cynllun anffodus hwn yn y Wylfa a chyfeirio’u gwybodaeth a phrofiad at ddatblygu technolegau ynni adnewyddadwy sy’n prysur ddod i lawr yn eu prisiau.”