Chris Coleman
Mae enw rheolwr Cymru, Chris Coleman wedi cael ei grybwyll fel olynydd posib i Sam Allardyce yn Crystal Palace.

Dim ond ers y Nadolig y bu cyn-reolwr Lloegr, Sam Allardyce, yn rheolwr ar y tîm o Lundain, ac mae’n gadael ar ôl llwyddo i’w cadw yn yr Uwch Gynghrair ar ôl curo Hull gydag un gêm o’r tymor yn weddill.

Roedd Sam Allardyce wedi llwyddo i ail-adeiladu ei yrfa yn dilyn helynt pan fu’n rhaid iddo ymddiswyddo o’i swydd fel rheolwr Lloegr pan ddaeth i’r amlwg ei fod e wedi bod yn trafod ffyrdd o dorri rheolau trosglwyddiadau’r Gymdeithas Bêl-droed gyda newyddiadurwyr.

Bum mis union ers ei benodi, mae Sam Allardyce yn gadael carfan sydd wedi cryfhau’n sylweddol wrth iddyn nhw guro Chelsea a Lerpwl yn y cyfnod hwnnw.

Mae cytundeb Chris Coleman gyda Chymru’n dod i ben y flwyddyn nesaf. Fe lofnododd estyniad o ddwy flynedd ar ôl ymgyrch Cymru yn Ewro 2016 yn Ffrainc y llynedd.