Mae effeithiau ymosodiad Arena Manceinion nos Lun yn dal i effeithio ar bobol ifanc yr ardal, meddai athrawes sy’n rhannu ei phrofiadau am gyrraedd yr ysgol fore Mawrth.

Yn ôl Eirian Ruth Xerri, fe drodd 0cynnwrf disgyblion ynglŷn â’r cyngerdd nos Lun, yn deimladau oeraidd ac iasol fore Mawrth.

“Roeddwn wedi cynhyrfu’n llwyr,” meddai wrth golwg360. “Chi jest yn difaru mynd i’r gwaith achos dydych chi ddim yn gwybod beth sydd wedi digwydd tan eich bod yn cyrraedd yna. Mae’n really ofnus meddwl am y peth.

“Mae plant o 11 i 15 oed yn yr ysgol, ac oeddwn i’n gwybod fod plant o’n hysgol ni wedi mynd i’r cyngerdd. Ond doeddwn i ddim yn siŵr beth oedd wedi digwydd… Mae’n ddychrynllyd iawn i fod yn onest … Diolch byth fod pawb o’r ysgol yn iawn.”

“Arswydus”

Fel athrawes mewn ysgol yn Northwich yn Sir Gaer ni phrofodd yr arswyd o lygad y ffynnon ond dywedodd yr oedd nifer o’i ffrindiau oedd yn gweithio yng nghanol y ddinas wedi cael eu syfrdanu gan y “tawelwch” yno.

“Gwnaethon nhw ddweud wrtha’i yr oedd hi’n dawel, heb lawer o geir ar y ffyrdd, tramiau yn dawel – eithaf arswydus i ddweud y gwir.”