Daniel Thomas, myfyriwr ym Mhrifysgol Manceinion (Llun: Facebook)
Yn ôl myfyriwr ym Mhrifysgol Manceinion, mae’r ymosodiad neithiwr wedi effeithio’r ddinas gyfan gan gynnwys  trafnidiaeth gyhoeddus.

“Es i allan heddiw ond doedd dim llawer o bobol,” meddai Daniel Thomas. “Dw i’n gwybod bod llawer o’r bysiau a’r tramiau ynghau. Mae genna’i ffrindiau oedd gydag arholiadau heddiw a dydy’r bysys ddim yn rhedeg.”

Mae Daniel Thomas yn byw ychydig filltiroedd i ffwrdd o safle’r ymosodiad ond mae’n tybio bod mwy o bresenoldeb heddlu yng nghanol y ddinas.

Pryder ac ofn

Wedi pedair blynedd o astudio a byw ym Manceinion dywedodd Daniel Thomas nad yw erioed wedi gweld digwyddiad tebyg, ond nid yw am roi mewn i’r pryder a’r ofn sydd fel arfer yn dod yn sgil ymosodiad o’r fath.

“Pob tro maen nhw’n mynd i ddinas wahanol. Dw i ddim yn disgwyl iddyn nhw ymosod ar Fanceinion eto. Mae’n eithaf random lle maen nhw’n ymosod,” meddai gan gyfeirio at yr ymosodiadau ym Mharis a Brwsel.