Carwyn Jones (Llun: Flickr/Cynulliad Cymru)
Cafodd munud o dawelwch ei gynnal yn y Senedd ym Mae Caerdydd heddiw am y rhai gafodd eu lladd a’u hanafu yn yr ymosodiad ym Manceinion nos Lun.

Dywedodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones, fod Cymru’n “sefyll mewn undod” â’r bobol gafodd eu heffeithio, ac fe fydd gwylnos yn cael ei chynnal ar risiau’r Senedd am 5.30yh heno.

Cyfeiriodd Carwyn Jones at ba mor “adnabyddus a hoffus” yw dinas Manceinion i nifer o bobol Cymru, yn enwedig pobol sy’n byw yn y gogledd.

Ychwanegodd ei fod wedi ysgrifennu at Brif Weinidog Prydain a Maer Manceinion, Andy Burnham, i fynegi “atgasedd at yr ymosodiad” ynghyd â “chynnig cyd-gefnogaeth.”

‘Ofnadwy a disynnwyr’

Wrth gyfeirio at y trychineb dywedodd Carwyn Jones fod “creulondeb penodol ar waith yn y weithred hon wedi’i hanelu at bobol yn eu harddegau allan mewn cyngerdd. Mae’n anodd dychmygu gweithred fwy ofnadwy a disynnwyr,” meddai.

Mae wedi canmol gwaith y gwasanaethau brys ynghyd â “dewrder, caredigrwydd a chyd-gefnogaeth” cymunedau’r ardal.

“Dylwn ni fyth fynd i arfer â brawychiaeth – gartref na thramor. Gallwn ni byth dderbyn yr ymosodiadau hyn fel ffaith i fywyd,” meddai.

“Y neges o’r Siambr yw na fyddwn yn mynd yn benisel, byddwn ni ddim yn diflannu i’r cysgodion a byddwn ni ddim yn newid ein ffordd o fyw. Dyna’r deyrnged orau gallwn gynnig i bobol Manceinion heddiw.”

Rhodri Morgan

 

Cafodd teyrngedau eu rhoi yn y Senedd hefyd i’r diweddar cyn-Brif Weinidog, Rhodri Morgan, a fu farw’r wythnos diwethaf yn 77 oed.

Mae llyfr coffa amdano’n parhau i fod ar agor i ymwelwyr â’r Senedd a swyddfa’r Cynulliad ym Mae Colwyn a bydd baneri yn parhau i chwifio ar hanner mast.