Rhiannon Ashley, myfyrwraig ym Manceinion
Mae myfyrwraig sy’n wreiddiol o Gastellnewydd Emlyn yn dweud ei bod hi wedi’i hysgwyd gan y digwyddiadau ym Manceinion nos Lun.

Fe fu Rhiannon Ashley i’r arena i wahanol gyngherddau yn y gorffennol gan ddweud fod “yn rhaid i bobol barhau â’u bywydau fel arfer”.

“Fyddwn ni byth yn gwybod beth sy’n mynd i ddigwydd nesaf, ond mae’n rhaid inni barhau fel normal, ni ffaelu bod ofn pethau fel hyn yn ddyddiol,” meddai wrth golwg360.

‘Seirenau dros nos’

Mae’r fyfyrwraig yn ei hail flwyddyn yn astudio’r Llais yng Ngholeg Cerdd Brenhinol Manceinion, a dywedodd iddi glywed am y newyddion neithiwr a hithau’n effro yn hwyr.

“Doeddwn i jest ffaelu credu bod e wedi digwydd mor agos. Ni’n clywed am stwff yma ym Mharis a hyd yn oed yn Llundain – ond ’sa i’n meddwl fod neb wir yn ystyried terfysgaeth tan fod e’n actually digwydd yn yr ardal gyfagos,” meddai.

Esboniodd ei bod yn byw tua thair milltir o ganol y ddinas, ac yn agos at un o’r ysbytai.

“Dw i wedi bod yn clywed seirenau dros nos, a dw i’n dal yn clywed hofrennydd bore yma,” meddai.