Plismon tu allan i Arena Manceinion wedi ffrwydrad Llun: Peter Byrne/PA Wire
Mae arweinwyr pleidiau gwleidyddol Cymru wedi ymateb i’r trychineb ym Manceinion nos Lun pan gafodd 22 o bobol eu lladd ar derfyn cyngerdd pop yn y ddinas.

Mewn neges ar wefan gymdeithasol Twitter dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, fod hwn yn “newyddion arswydus”.

Ychwanegodd fod “fy meddyliau gyda’r rheiny a effeithiwyd gan yr ymosodiad erchyll a’u teuluoedd”.

Mae’r holl ymgyrchu ar gyfer Etholiad Cyffredinol Llywodraeth Prydain wedi’i ohirio heddiw.

Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, bod Plaid Cymru’n gwneud hynny “o barch” gan ddweud bod ei “meddyliau a’i chydymdeimladau gyda phawb wedi’u heffeithio gan ddigwyddiadau dychrynllyd Manceinion.”

Ychwanegodd Kirsty Williams o’r Democratiaid Rhyddfrydol fod Manceinion yn “ddinas hyfryd gyda phobol gyfeillgar wedi dioddef yr ymosodiad ofnadwy hwn”.

Dywedodd Neil Hamilton o UKIP ei fod yn “cydymdeimlo â theuluoedd a ffrindiau’r rhai sydd wedi marw neu anafu,” ac yn ôl Grenville Ham o’r Blaid Werdd, fe fyddan hwythau’n gohirio eu hymgyrchu gan fod hyn yn “trosesgyn gwleidyddiaeth”.

Mewn datganiad dywedodd Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies, fod “targedu cyngerdd gyda chymaint o blant a theuluoedd yn weithred eithaf o lwfrdra,” ac ychwanegodd ei fod yn canmol ymateb y gwasanaethau brys.