Mae cefnogaeth i’r blaid Lafur wedi cynyddu’n sylweddol tra bod momentwm y Ceidwadwyr wedi arafu, yn ôl  y pôl piniwn diweddaraf.

Yn ôl dau arolwg gyntaf Baromedr Gwleidyddol Cymru – sy’n cael ei gynnal rhwng ITV Cymru Wales a Chanolfan Llywodraethiant Cymru – y darogan oedd y byddai’r Ceidwadwyr yn ennill mwyafrif hanesyddol yng Nghymru.

Ond mae’r gefnogaeth i’r Blaid Lafur wedi cynyddu mewn polau ar draws y Deyrnas Unedig ond nid ar yr un raddfa ag y mae yma yng Nghymru, a nawr mae’r Ceidwadwyr yn “colli tir i Lafur” yn ôl yr Athro Roger Scully.

Cafodd y pôl ei chynnal yn sgil y ddadl deledu rhwng arweinwyr y pleidiau ar ITV ac yn dilyn marwolaeth cyn-Brif Weinidog Cymru, Rhodri Morgan ac mae Roger Scully yn tybio efallai bod Llafur wedi derbyn “hwb o gydymdeimlad byr dymor.”

Er y ffactorau yma mae’r Athro Scully yn ffyddiog bod Llafur yn “ymladd yn ôl yn gryf” gan nodi: “nid yw plaid yn dominyddu gwleidyddiaeth gwlad am bron i ganrif drwy gamgymeriad.”

 “Ymladd yn ôl yn gryf”

Dywedodd 44% o bobol y bydden nhw’n pleidleisio dros Lafur, gyda 34% o’r 1,025 gafodd eu holi, yn dweud eu bod yn bwriadu pleidleisio dros y Ceidwadwyr, a 9% yn bwriadu pleidleisio dros Blaid Cymru.

Wrth i’r frwydr barhau rhwng y ddwy brif blaid mae cefnogaeth y pleidiau llai yn parhau i wegian gyda chefnogaeth Plaid Cymru yn cwympo 2%, a chefnogaeth y Democratiaid Rhyddfrydol yn gostwng  1%.

Mae disgwyl i dirwedd wleidyddol Cymru aros mwy neu lai’r un peth ag y mae ar hyn o bryd, gan eithrio sedd Gŵyr fydd yn troi at Lafur.

“Brwydr dwy blaid”

“Mae’r ffaith bod y polau yn newid mor aml yn dangos gymaint sydd i frwydro drosti yn ystod pythefnos olaf yr ymgyrch,” meddai llefarydd ar ran y Blaid Lafur.

“Yr unig beth sy’n sicr yw mai brwydr syml yw hyn rhwng Llafur Cymru a’r Torïaid – a dim ond pleidlais dros Lafur Cymru gall atal y posibilirwydd o fwyafrif anferthol i’r Torïaid yn San Steffan, a phum mlynedd arall o doriadau’r Torïaid.”

Dim gwrthwynebiad

“Mae’r Ceidwadwyr wedi dangos yn union be maen nhw’n ei feddwl o aelodau mwyaf bregus cymdeithas trwy waredu camau i ddiogelu pensiynau a chostau gofal – mae’r blaid gas yn ôl,” meddai Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Mark Williams.

“Ond lle mae’r gwrthwynebiad? Dylai fod y Blaid Lafur yn teimlo embaras am fod eu haelodau seneddol wedi methu a diogelu diddordebau Cymru.”

Canran o’r bleidlais

Llafur: 44% (+9)

Ceidwadwyr: 34% (-7)

Plaid Cymru: 9% (-2)

Democratiaid Rhyddfrydol: 6% (-1)

UKIP: 5% (+1)

Eraill: 3% (+1)

Nifer y Seddi

Llafur: 26 sedd (+1)

Ceidwadwyr: 10 sedd (-1)

Plaid Cymru: 3 sedd (dim newid)

Democratiaid Rhyddfrydol: 1 sedd (dim newid)