Nia Griffith AS
Mae Ysgrifennydd Amddiffyn yr wrthblaid, Nia Griffith, wedi condemnio ymosodiadau’r IRA yng Ngogledd Iwerddon, yn dilyn beirniadaeth o’r Blaid Lafur am safiad Jeremy Corbyn ac aelodau eraill y blaid.

Mae nifer o aelodau blaenllaw Llafur, gan gynnwys yr arweinydd Jeremy Corbyn, a’r Canghellor Cysgodol, John McDonnell, wedi cael eu beirniadu’n ddiweddar am wrthod â chondemnio ymosodiadau’r IRA.

Mae Jeremy Corbyn wedi condemnio “gweithredoedd o drais o le bynnag y daeth” yn ystod y Trafferthion yng Ngogledd Iwerddon ond mae wedi gwrthod  condemnio’r IRA o fod yn frawychwyr.

“Dw i ddim yn mynd i siarad ar ran fy arweinydd,” meddai Nia Griffith, Aelod Seneddol Llanelli, wrth annerch dadl yn Sefydliad y Gwasanaeth Unedig Brenhinol.

“Ond gallaf ddweud fel rhywun sydd yn medru cofio’r Trafferthion yng Ngogledd Iwerddon, dw i heb unrhyw amwyster yn condemnio ymosodiadau bom yr IRA yng Ngogledd Iwerddon.”

“Brawychus”

“O ran yr IRA, dw i’n hapus i gondemnio brawychiaeth o le bynnag y daw,” meddai Gweinidog Amddiffyn Llywodraeth y Deyrnas Unedig, Harriett Baldwin.

“Dw i’n bersonol yn credu ei bod hi’n frawychus ei bod hi’n bosib y gall person, wnaeth gefnogi’r unigolion oedd wedi ein bomio ni – y Blaid Geidwadol – yn Brighton yn yr 1980au, fod yn Brif Weinidog.”