Mochyn daear
Mae un o bwyllgorau’r Cynulliad yn cynnig bod angen dull newydd o daclo problemau TB mewn gwartheg yng Nghymru, gan gynnwys difa moch daear pan fo angen.

Mae’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig yn dweud ei fod yn cytuno gyda rhaglen ddileu newydd Llywodraeth Cymru sydd â chynnig i ddechrau difa moch daear mewn buchesi ag achosion parhaus o TB.

Ond mae’r Pwyllgor yn rhybuddio bod angen monitro ac adolygu hyn yn wyddonol er mwyn sicrhau ei fod yn gweithio – a stopio neu newid yr arfer os na fydd yn gweithio.

Effaith ar bris gwartheg?

Mae’r grŵp o Aelodau Cynulliad yn argymell dull rhanbarthol o fynd i’r afael â TB, gan gategoreiddio ardaloedd risg uchel, canolig neu isel â gwahanol gyfyngiadau ar gyfer pob gradd.

Mae’r Pwyllgor hefyd am weld dyddiad targed yn cael ei osod ar gyfer pryd y bydd Cymru yn gwbl rydd o TB, fel sydd yn Lloegr, Iwerddon a Seland Newydd.

Maen nhw hefyd yn argymell cyflwyno system masnachu yn seiliedig ar risg, gyda gwerth yr anifail yn lleihau yn ddibynnol ar risg y fuches.

Byddai hyn yn cael ei gyflwyno yn wirfoddol i ddechrau, fel yn Seland Newydd, a’i gyflwyno’n orfodol os bydd angen, ar ôl ei adolygu.

Mae’r Pwyllgor yn dweud bod y system orfodol wedi lleihau achosion TB yn Awstralia.

Angen bod yn “rhydd o TB”

“Mae TB mewn gwartheg yn broblem gostus, ddygn a rhwystredig i’r gymuned amaethyddol yng Nghymru,” meddai Jenny Rathbone AC, Cadeirydd dros dro’r Pwyllgor.

“Rydym am weld Cymru’n cael ei datgan yn wlad sy’n rhydd o TB cyn gynted ag y bo modd, ond yn cydnabod bod lefel y cydweithrediad sydd ei angen i gyrraedd yno yn sylweddol.

“Daethom i’r casgliad bod angen strategaeth ar ei newydd wedd sy’n cynnwys dull rhanbarthol at ddileu TB, cyfyngiadau o ran symud ar fuchesi sydd wedi’u heintio a masnachu yn seiliedig ar risg ymhlith opsiynau eraill.

“Mae angen hefyd i gadw llygad barcud ar reoli buchesi godro mwy o faint ac unrhyw gyswllt gyda’r slyri a gynhyrchir ganddynt.”

Iawndal ffermwyr

Dan y 12 o argymhellion sydd yn adroddiad y Pwyllgor, mae hefyd galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod cyllid yr Undeb Ewropeaidd ar hyn o bryd ar gyfer profion TB, yn cael ei warantu o fewn cyllidebau Llywodraeth Cymru yn y dyfodol.

Dros y 10 mlynedd diwethaf mae tua £150 miliwn wedi cael ei dalu i ffermwyr sydd wedi cael eu heffeithio gan TB ar eu fferm, gyda Llywodraeth Cymru yn cynnig lleihau’r uchafswm mae’n ei thalu mewn iawndal o £15,000 i £5,000, ar ôl i gyllid Ewropeaidd ddod i ben.

“Rydym wedi clywed gan ffermwyr am gost y rhaglen brofi a’r gofid y mae hyn yn ei achosi pan fydd yn rhaid difa anifeiliaid,” ychwanegodd Jenny Rathbone.

“Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod swm rhesymol yn cael ei dalu i ffermwyr fel iawndal pan fydd hyn yn digwydd.

“Byddwn yn adolygu’r polisi newydd am 12 mis ac i wneud yn siŵr mai dyna’r ffordd fwyaf effeithiol o sicrhau bod Cymru yn rhydd o TB.”

Mae disgwyl i Lywodraeth Cymru ystyried yr adroddiad maes o law.