Carwyn Jones (Llun: Ben Birchall/ PA Wire)
Mewn ymgais i gadw seddi Llafur yn y gogledd, mae Carwyn Jones wedi lansio maniffesto’r blaid yng Nghymru heddiw gyda chyfres o addewidion penodol ar gyfer gogledd Cymru.

Roedd y rhain yn cynnwys rhai addewidion ar feysydd datganoledig ac yn ei araith, roedd Prif Weinidog Cymru yn cydnabod bod ei Lywodraeth eisoes wedi dechrau gweithredu rhai ohonyn nhw.

Dywedodd fod Llywodraeth Bae Caerdydd eisoes wedi ymrwymo i ddelifro ar brosiect gwerth £14 biliwn Wylfa Newydd, buddsoddi £200 miliwn i goridor yr A55/A494 a lleoli’r Banc Datblygu newydd i Gymru yn y gogledd.

Roedd addewidion eraill yn cynnwys adeiladu trydedd ffordd ar Bont Menai, sicrhau bod cysylltiadau gan y gogledd â gwasanaeth trên HS2 a pharhau gyda datblygiad y Metro yn y gogledd-ddwyrain fydd yn costio £50 miliwn.

Gogledd Cymru – “maes y gad”

Mae’r arolygon barn yn dangos y gallai Llafur wynebu colli pob un o’r pum sedd mae’n eu dal yng ngogledd Cymru ar hyn o bryd.

“Mae pobol yn iawn i ddweud mai gogledd Cymru yw maes y gad yn yr etholiad hwn. Yn union fel oedd yn etholiadau’r Cynulliad y llynedd,” meddai Carwyn Jones yn y lansiad yn Wrecsam.

“Chi’n cofio pan ddywedodd y Torïaid y byddan nhw’n ysgubo’r holl ardal? Mae’n debyg bod cymryd pobol yn ganiataol yn ei DNA.

“Dywedon nhw eu bod wedi ennill Wrecsam, Delyn, Dyffryn Clwyd… yn ‘done deal’ meddan nhw.

“Wel fe wnaeth pobol gogledd Cymru ddangos nad oedd hynny’n wir, nad oedden nhw am gael eu cymryd yn ganiataol – dim buddugoliaeth hawdd i’r Torïaid a dyna beth sydd angen ar yr economi hon eto.

“Neges gref mai dim ond Aelodau Seneddol Llafur Cymru fydd yn brwydro dros swyddi i ddod fan hyn. Dim ond ASau Llafur Cymru fydd yn hedfan y faner dros y gogledd.”

Mae’r maniffesto yn addo cyfres o brosiectau isadeiledd, gan gynnwys morlyn llanw Abertawe, trydaneiddio’r rheilffyrdd a sefydlu banc datblygu newydd yng Nghymru.

Mae Llafur Cymru hefyd wedi addo diogelu arian yr Undeb Ewropeaidd a fyddai wedi dod i Gymru.

Rhodri Morgan – “ysbrydoliaeth”

Yn ystod araith Carwyn Jones heddiw, talodd deyrnged i’r diweddar cyn-Brif Weinidog Cymru ac arweinydd y blaid fan hyn, Rhodri Morgan.

“Fe fydd ein hysbrydoliaeth dros y diwrnodau a’r wythnosau nesaf,” meddai.

“Mae llawer o sôn am natur radlon Rhodri, ond roedd yn ddyn penderfynol ac roedd yn gwybod y gwerth mewn ennill.

“Ni fyddai’n derbyn cael ei guro, pan fyddai’n cael ei wthio yn ôl, roedd yn dod nôl yn fwy cryf. Dyna ddarn bach o Rhodri y byddwn ni’n mynd gyda ni dros y dyddiau nesaf.”