Llun: PA
Mae dyn o Gaerdydd wedi pledio’n euog o feddu ar filoedd o sigarennau ffug ar ôl i awdurdodau eu darganfod wedi’u cuddio y tu ôl i banel mewn toiled.

Roedd Abdulla Mohammed Abdulla yn gwerthu’r sigarennau ac roedd ganddo 3,600 yn ei feddiant mewn eiddo yn ardal Y Rhath yn y brifddinas.

Yn Llys Ynadon Caerdydd, plediodd y dyn 33 oed o Adamsdown, Caerdydd, yn euog i ddwy drosedd dan Ddeddf Nodau Masnach 1994 am feddu ar sigarennau ffug i’w cyflenwi.

Mae e hefyd wedi cyfaddef i ddwy drosedd arall sy’n ymwneud â gwerthu sigarennau oedd heb â’r rhybuddion gofynnol ar y pacedi.

Mae wedi cael ei orchymyn i wneud 180 awr o waith di-dâl, talu costau o £350 a gordal dioddefwr o £85.

“Rhybudd i bawb”

“Mae’r gyfraith yna am reswm a’r rheswm yw amddiffyn cwsmeriaid,” meddai llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd wedi’r achos.

“Dylai’r erlyniad hwn fod yn rhybudd i bawb – ni fyddwn yn goddef neb yn ceisio gwerthu sigarennau ffug. Byddwn yn parhau i ddwyn pwysau ar gyfer erlyniadau er mwyn trosglwyddo’r neges.”