Rhodri Morgan cyn-Brif Weinidog Cymru Llun: PA
Mae disgwyl i Gyfarfod Llawn y Cynulliad ddechrau’n gynt na’r arfer ddydd Mawrth er mwyn rhoi cyfle i Aelodau dalu teyrnged i’r diweddar cyn-Brif Weinidog, Rhodri Morgan.
Bydd y cyfarfod, lle mae Aelodau Cynulliad yn cynnal dadleuon a holi’r Prif Weinidog yn Siambr y Senedd, yn dechrau awr yn gynt am 12:30.
Bu farw Rhodri Morgan, fu’n Brif Weinidog ar Gymru rhwng 2000 a 2009, yn sydyn ddydd Mercher diwethaf yn 77 oed.
Fe wnaeth ymddeol yn llawn a gadael y Cynulliad yn 2011. Mae ei wraig, Julie Morgan, yn parhau i fod yn Aelod Cynulliad dros Ogledd Caerdydd.
Dwy awr o deyrngedau
Er nad oes cyfnod penodol wedi’i neilltuo ar gyfer y teyrngedau, mae disgwyl iddyn nhw bara am ddwy awr.
Bydd toriad rhwng y teyrngedau ac mae disgwyl i fusnes arferol y Cynulliad ddechrau am 3 o’r gloch.
Bydd llyfr coffa yn parhau i fod ar agor i ymwelwyr â’r Senedd a swyddfa’r Cynulliad ym Mae Colwyn a bydd baneri yn parhau i chwifio ar hanner mast.
Mae modd i’r cyhoedd wylio’r Cyfarfod Llawn ar Senedd TV ac ar sianel YouTube y Cynulliad.