Carwyn Jones (Llun: Cynulliad Cymru)
Mae Llafur Cymru wedi addo sefydlu “partneriaeth go iawn” gyda Jeremy Corbyn, pe bai’n arwain y wlad wedi 8 Mehefin.

Dyna mae’r Prif Weinidog ac arweinydd y blaid yng Nghymru, Carwyn Jones, wedi’i ddweud, wrth i’w blaid lansio ei maniffesto.

Yn ôl Carwyn Jones, mae angen i’r Blaid Lafur fod mewn grym yng Nghaerdydd ac yn San Steffan, er gwaethaf ymdrechion diweddar i ymbellhau rhag Jeremy Corbyn.

Mae disgwyl i Carwyn Jones addo cyfres o brosiectau isadeiledd, gan gynnwys morlyn llanw Abertawe, trydaneiddio’r rheilffyrdd a sefydlu banc datblygu newydd yng Nghymru.

Bydd hefyd yn dweud y bydd yn diogelu cyllid Ewropeaidd a fyddai wedi dod i Gymru a dileu tollau ar y Bont Hafren.

Gweithio gyda’i gilydd

“Mae ein maniffesto yn gynllun uchelgeisiol a chynhwysfawr o’r hyn gall Llafur Cymru ei wneud, gyda’n gilydd, wrth weithio gyda’r Cynulliad a San Steffan,” bydd Carwyn Jones yn dweud.

“Dydy’r Torïaid heb wneud dim i wella isadeiledd Cymru yn ystod y saith mlynedd ddiwethaf – a byddan nhw’n gwneud dim am y pum mlynedd nesaf pe bawn nhw’n cael y cyfle.

“Mae tîm cryf o Aelodau Seneddol Llafur o Gymru, wrth weithio gyda ni yn y Cynulliad, eisoes wedi gwneud cymaint i roi’r materion hyn ar frig yr agenda yng Nghymru.

“Ond mae angen dwy lywodraeth Llafur arnom yn gweithio gyda’i gilydd i wneud ein heconomi i weithio dros bawb, nid dim ond y cyfoethog.

“Wrth weithio mewn partneriaeth, bydd Llafur Cymru yn ymrwymo i ddiogelu’r arian a fyddai wedi dod i Gymru drwy’r UE.

“Bydd yr arian hwnnw yn cael ei wario yng Nghymru, ac ar flaenoriaethau Cymru, a ddim wedi’i guddio yn Whitehall, fel mae’r Torïaid yn bygwth.”

£1.5 biliwn i Gymru

Yn ôl Carwyn Jones, bydd tua £1.5 biliwn yn ychwanegol yn dod i Gymru pe bai Llafur mewn grym yn San Steffan.

Dywed y bydd yr arian hwn yn cael ei ddefnyddio ar greu swyddi, ar y Gwasanaeth Iechyd ac ar addysg.

Bydd y blaid yn Sir y Fflint, yn etholaeth Delyn, i lansio ei maniffesto, mewn etholiad a allai weld y Ceidwadwyr yn cael mwyafrif yng Nghymru am y tro cyntaf ers i ddemocratiaeth lawn ddechrau.

Mae’r arolwg diweddar yn dangos bod y Torïaid 6% ar y blaen yng Nghymru, gyda’r posibilrwydd y gallai plaid Theresa May gipio naw sedd oddi wrth Lafur.