Alun Wyn Evans (Llun: NFU Cymru)
Alun Wyn Evans yw enillydd Gwobr Pencampwr Cymunedol NFU Cymru eleni.

Ers wyth mlynedd, fe fu’r mudiad yn gwobrwyo gwaith caled ffermwyr oddi ar eu ffermydd i helpu eu cymuned leol.

Mae’r enillydd yn derbyn cloc wedi’i wneud o lechen, a £500.

Yr enillydd

Mae Alun Wyn Evans yn cadw 140 o ddefaid a 15 o wartheg ar Fferm Penllyn yn Nhywyn, ac mae’n gwerthu ei ŵyn i ladd-dy lleol a’r cig yn cael ei werthu i siopau lleol.

Yn 2010, fe enillodd Wobr Natur a Ffermio Cymru am ei waith gyda’r RSPB i warchod cornicyllod ar y fferm, gan gynyddu’r nifer o barau o ddau i 25.

Mae’n gadeirydd Cyngor Tref Tywyn ac yn gyn-gynghorydd sir yng Ngwynedd.

Mae e hefyd yn cynrychioli ffermwyr ar weithgor lleol Arloesi Gwynedd Wledig ac yn cynrychioli Meirionnydd ar bwyllgor cenedlaethol Un Llais Cymru.

Mae’n aelod o bwyllgor y Treialon Cŵn Defaid Rhyngwladol, yn gyfrifol am hysbysebion ym mhapur bro Dail Dysynni ac yn hyfforddi tîm rygbi dan 10 oed Dolgellau a Chlwb Hoci Dysynni.

‘Enillydd teilwng iawn’

Dywedodd Dirprwy Lywydd NFU Cymru, John Davies fod Alun Wyn Evans yn “enillydd teilwng iawn” a bod ei gyfraniad i fywyd cymunedol yn “dyst i’r ffordd y mae’n cyfrannu’n uniongyrchol i greu dyfodol cynaladwy i bawb sy’n byw a gweithio mewn ardaloedd gwledig”.

“Mae ei frwdfrydedd dros ffermio’n amlwg ac mae e wedi cyfeirio’r brwdfrydedd yma tuag at hysbysu ac addysgu cynulleidfa eang am yr hyn sydd wir o bwys i gymunedau cefn gwlad Cymru.

“Mae Alun yn ticio’r holl flychau ar gyfer y wobr hon ac mae’n llysgennad cymunedol go iawn i’r diwydiant ffermio yn yr unfed ganrif ar hugain.”