Wayne David (Llun o'i wefan)
Mae Plaid Cymru’n gwneud gwaith y Ceidwadwyr drostyn nhw drwy fod yn negyddol am Gymru, yn ôl ymgeisydd seneddol Llafur yng Nghaerffili, Wayne David.

Mae’n cyhuddo’r Blaid o fod yn “ddi-gyfeiriad ac yn rhanedig”, ac yn dweud bod ganddyn nhw “obsesiwn â dogma ar draul cyflawni”.

Mewn datganiad, dywedodd Wayne David: “Mae Plaid Cymru’n parhau i wneud gwaith y Torïaid drostyn nhw, gan fod yn negyddol wrth siarad am Gymru a gadael y drws yn agored am bum mlynedd yn rhagor o doriadau’r Torïaid yng Nghymru.”

Dywedodd mai “Llafur yn unig sy’n sefyll lan dros Gymru, ar swyddi, buddsoddiad mewn gwasanaethau cyhoeddus a chartrefi”.

Rhanedig

Mae Wayne David yn dweud bod Plaid Cymru’n rhanedig ar sawl polisi, gan gynnwys Brexit, a’u bod yn “dawedog am Wylfa Newydd”.

Ac mae’n dadlau nad oes ganddyn nhw gynllun is-adeiledd, a’u bod nhw wedi “pleidleisio dro ar ôl tro gyda’r Ceidwadwyr ac UKIP i geisio atal arian ar gyfer ein hysgolion a’r Gwasanaeth Iechyd.”

Llywodraeth

Wrth gyfeirio at etholiadau’r Cynulliad, pan oedd Carwyn Jones a Leanne Wood yn gyfartal o ran pleidleisiau i arwain Llywodraeth Cymru, mae Wayne David wedi cyhuddo Plaid Cymru o “estyn allan” i’r Ceidwadwyr ac UKIP am gefnogaeth.

Yn y pen draw, cafodd Carwyn Jones ei ethol yn Brif Weinidog ar ôl i Blaid Cymru daro bargen gyda Llafur.

Ychwanegodd Wayne David: “Er iddyn nhw ddweud drwy gydol yr ymgyrch yn y Cynulliad na fydden nhw fyth yn taro bargen â’r Torïaid, y peth cyntaf wnaeth Plaid ar ôl yr etholiad oedd estyn allan i’r Torïaid ac UKIP i ffurfio llywodraeth.

“Mae’n gliriach nag erioed mai brwydr rhwng Llafur Cymru a’r Torïaid yw’r etholiad cyffredinol hwn.

“Mae Leanne Wood yn gwybod na all ei phlaid ennill yr etholiad, ac fe fydd pleidlais dros Blaid Cymru’n helpu i roi buddugoliaeth i’r Torïaid.”

“Gweision bach i’r Torïaid”

Wrth ymateb i’r cyhuddiadau dywedodd Liz Saville Roberts, ymgeisydd Seneddol Plaid Cymru dros Ddwyfor Meirionnydd bod y cyhuddiadau yn “gwbl chwerthinllyd” gan gyhuddo’r Blaid Lafur o “eistedd ar eu dwylo yn San Steffan wrth i’r Ceidwadwyr wneud eu gwaethaf dros Gymru.”
“Pe bai Wayne David yn talu sylw byddai’n ymwybodol o gynllun arloesol Plaid Cymru i fuddsoddi £7.5bn yn isadeiledd ein gwlad i drawsnewid ein hysgolion, ysbytai, ffyrdd a thai. Dyma gyferbyniad clir gyda Llafur a fu mewn grym yn San Steffan am 13 mlynedd ond na lwyddodd i drydaneiddio’r un medr o reilffyrdd Cymru.

“O fethu gwrthwynebu toriadau creulon ac eithafol i ddiogelwch cymdeithasol, i ymatal ar bleidleisiau allweddol ar drosglwyddo pwerau i’n Cynulliad Cenedlaethol, mae gan Lafur record ddamniol o fod yn weision bach i’r Torïaid.

“Yr unig beth mae Llafur yn gynnig yn yr etholiad hwn yw rhethreg wag a rhagrith rhonc. Mae’r blaid yn rhy wan a rhanedig i gynnig unrhyw fath o wrthwynebiad ystyrlon i Theresa May a’i chriw a does gan eu harweinydd ddim owns o hygrededd.”