Adam Price (Llun: Plaid Cymru)
Cenedlaetholdeb yw’r ffordd ymlaen i Gymru, yn ôl Adam Price.
Daw’r datganiad wrth i Aelod Cynulliad Plaid Cymru yn Nwyrain Caerfyrddin a Dinefwr rybuddio bod perygl y gallai Cymru ddiflannu’n llwyr o dan arweiniad y Blaid Lafur.
Wrth i’r Ceidwadwyr dargedu nifer o seddi ychwanegol yng Nghymru, dywedodd Adam Price wrth raglen Sunday Supplement ar Radio Wales y gallai Cymru “gael ei gwthio i’r cyrion neu gael ei chwyddo” yn y byd gwleidyddol.
Dywedodd: “Penderfynodd Theresa May alw’r etholiad tra’n cerdded yn Eryri a thra’n aros yng nghartref gwyliau aelod o’r blaid.
“Mae yma drosiad. A ydyn ni am fod yn ail gartref i blaid Dorïaidd Seisnig neu’n feistri yn ein cartrefi ein hunain?”
Rhybuddiodd Adam Price fod y Ceidwadwyr wedi cael effaith negyddol sylweddol ar ddiwydiannau Cymru y tro diwethaf iddyn nhw gael buddugoliaeth swmpus mewn etholiad cyffredinol yn 1983.
Ac mae’n rhybuddio y gallai’r un peth ddigwydd eto y tro hwn.
Plaid Cymru
Dywedodd Adam Price fod yr holl ddatblygiadau pwysig a fu yn hanes Cymru dros y blynyddoedd diwethaf wedi digwydd o ganlyniad i gynnydd yn yr ymdeimlad o genedlaetholdeb.
“Yn y 1970au, Awdurdod Datblygu Cymru, y Cynulliad, y cyfan oll am fod Cymru wedi rhoi ei hun ar y map gwleidyddol.
“Ry’n ni’n anweledig ar hyn o bryd oherwydd bod y mudiad cenedlaethol yn wannach.”
Methiant Llafur
Dydy pleidleisio dros Lafur ddim yn gweithio i Gymru bellach, meddai Adam Price, sy’n rhybuddio bod rhaid i Gymru “frwydro i oroesi”.
Dywedodd mai “adeiladu gwregys gwyrdd” [o Aelodau Seneddol Plaid Cymru] yn San Steffan yw’r ffordd ymlaen i Gymru.
“Mae Llafur yn diflannu fel grym gwleidyddol ar draws y DU, rhaid i ni edrych arnon ni ein hunain nawr a chreu dyfodol.”