Aabid Ali
Mae dyn oedd yn byw yn Wrecsam wedi cael ei ddedfrydu i bum mlynedd a phedwar mis dan glo am droseddau brawychol.

Fe blediodd Aabid Ali, 49 oed ac yn wreiddiol o Fanceinion, yn euog i ddau achos yn ymwneud â brawychiaeth yn Llys y Goron Manceinion heddiw.

Roedd y gweithiwr casglu biniau – Darren Glennon oedd ei enw cyn troi at Islam – wedi cyfadde’ fod ganddo ddau ‘lawlyfr’ brawychol, ac un o’r rheiny wedi’i gyhoeddi gan y mudiad Al Qaida.

Fe gafodd ei arestio ym mis Tachwedd y llynedd fel rhan o weithrediad wedi’i gynllunio gan Uned Gwrthderfysgaeth Eithafol Cymru a’r uned yng ngorllewin canolbarth Lloegr.

“Mae eithafiaeth a radicaliaeth yn rhywbeth rydym yn parhau i fod yn gyson wyliadwrus yn ei gylch,” meddai Richard Debicki, Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu Gogledd Cymru.

“Rydym hefyd yn gweithio’n galed i sicrhau bod ymdrechion i erlid neu gyflawni troseddau casineb yn erbyn cymunedau Moslemaidd ar draws Gogledd Cymru yn cael eu diwallu gyda dull ‘dim goddefgarwch’,” ychwanegodd.