Cadeirlan Tŷ Ddewi
Mae dros 1,000 o bobol wedi arwyddo deiseb yn gwrthwynebu sefydlu gwesty gadwyn Premier Inn yn ninas leiaf Prydain.

Mae’r cynllun i adeiladu’r gwesty newydd 63 ystafell wely wedi ei gynnwys fel rhan o brosiect datblygu ar Heol Glasfryn yn Nhŷ Ddewi.

Byddai datblygiad Ffordd y Glasfryn hefyd yn arwain at adeiladu 75 o gartrefi newydd, a chyfrannu at ariannu pwll nofio newydd i’r ddinas.

“Dinistrio busnesau”

Yn ôl y ddeiseb ni fyddai’r gwesty yn cyfrannu at ddatblygiad y pwll nofio ac mi fyddai yn ‘tanseilio busnesau lleol’.

‘Mae Premier Inn yn rhan o gwmni rhyngwladol,’ meddai geiriad y ddeiseb. ‘Mae’n bosib gall y datblygiad yma annog mwy o gwmnïau mawr i ddod i’n dinas brydferth gan ddinistrio busnesau annibynnol a bygwth ein hunaniaeth ddiwylliannol.’

Mae golwg360 wedi gofyn i reolwyr y prosiect am ymateb.