Fe fu cynnydd bychan yn y nifer sy’n gwrando ar Radio Cymru yn ystod tri mis cyntaf  2017.

Mae ffigurau diweddaraf RAJAR yn dangos bod 119,000 o bobol yr wythnos yn gwrando ar Radio Cymru – cynnydd o 5,000 yn nifer y chwarter diwethaf.

Mae’r ffigurau’n cyfeirio at y tri mis o wrando rhwng Ionawr a diwedd Mawrth 2017.

Mae golwg360 yn deall eu bod yn dangos fod rhaglenni’r penwythnos – nos Sadwrn a dydd Sul yn enwedig, cyfnodau’r “gynulleidfa draddodiadol” – yn dal eu tir yn well na rhaglenni gyda’r nosau yn ystod yr wythnos sy’n ceisio denu cynulleidfa newydd, ieuengach.

Roedd nifer y gwrandawyr yn ystod y tri mis hyd at Ragfyr 18, 2016 yn 114,000, sef 13,000 yn uwch na’r nifer yn yr adroddiad cynt ar gyfer misoedd Gorffennaf Awst a Medi. Roedd ffigwr trydydd chwarter 2016 yr isaf ers 2000.

Gostyngiad i Radio Wales

Mae ffigurau diweddaraf RAJAR ar gyfer nifer gwrandawyr Radio Wales yn dangos fod 373,000 o bobol yn gwrando ar yr orsaf bob wythnos.

Rhwng Hydref a Rhagfyr 2016, roedd y nifer yn 375,000 yr wythnos – cynnydd o 35,000 o’r ffigwr blaenorol o 340,000 ar gyfer haf 2016.