Dai Lloyd AC
Mae un o Aelodau cyntaf y Cynulliad wedi dweud mai “arweinyddiaeth glir” Rhodri Morgan a roddodd “tir cadarn” i’r daith ddatganoli yng Nghymru.

Cafodd Dai Lloyd ei ethol yn Aelod Cynulliad yn yr etholiad cyntaf yn 1999, gyda Rhodri Morgan hefyd yn cael ei ethol.

Alun Michael oedd yn arwain Llywodraeth Cymru a Phlaid Lafur Cymru ar y pryd, ond wedi ychydig dros flwyddyn roedd pwysau arno i ymddiswyddo yn sgil diffyg hyder a Rhodri Morgan gafodd ei ethol i gymryd yr awenau.

“Roedd o’n un o’r 60 Aelod Cynulliad, does ‘na ddim llawer ohonom ni ar ôl rŵan, ac yn naturiol yn y dyddiau cynnar bregus iawn oedd y sefydliad yma,” meddai Dai Lloyd wrth golwg360.

“Nid Rhodri oedd y Prif Weinidog cyntaf, ond wrth gwrs yn fuan wedyn mi ddoth o, ym mis Chwefror 2000… mi ddoth yn Brif Weinidog yn fuan wedi sefydlu’r lle ma, yn dal yn amser weddol simsan i’r Cynulliad.

“Roedd angen arweinyddiaeth glir ac i fod yn deg i Rhodri Morgan, roedd yn dangos yn eglur nad oedd yn fodlon jyst dilyn y llif Blairaidd oedd yn mynd ymlaen. Roedd yn dda cael y llais gwahanol yna i Gymru.”

“Dim rhaid dibynnu ar Lundain”

Roedd “arweinyddiaeth gadarn” Rhodri Morgan yn dangos i bobol bod “ni’n gallu gwneud pethau fan hyn yng Nghymru fach, doedd dim wastad rhaid dibynnu ar beth oedd Llundain yn dweud wrthym ni am wneud,” ychwanegodd.

“Roedd e’n rhan o’r agwedd iach yna a dylai hynny fod yn rhan o’r holl deyrngedau mae pobol yn talu er cof amdano.

Dywedodd Dai Lloyd y bydd yn cofio’r cyn Brif Weinidog “fel rhywun oedd pawb yng Nghymru yn ei adnabod, a hefyd wedi gadael gwaddol i Carwyn Jones i ddilyn ond hefyd wedi sefydlu’r Cynulliad yma ar dir cadarn erbyn y diwedd.”