Y diweddar Rhodri Morgan
Mae teyrngedau wedi’u rhoi i Rhodri Morgan, cyn-Brif Weinidog Cymru, sydd wedi marw yn 77 oed.

Mae Carwyn Jones, a’i olynodd yn y swydd, wedi ei ddisgrifio fel gwleidydd mawr ac fel ffigwr tadol yng ngwleidyddiaeth Cymru.

Yn ogystal â bod yn arweinydd y Blaid Lafur yng Nghymru, fe fu’n Aelod Seneddol Gorllewin Caerdydd rhwng 1987 a 2001; yn Aelod Cynulliad tros yr un etholaeth o 1999 tan 2011; cyn dod yn Brif Weinidog Cymru yn 2000 – swydd y bu ynddi am bron i ddegawd.

Roedd yn briod â’r gwleidydd, Julie Morgan, Aelod Cynulliad Canol Caerdydd, ac yn frawd i’r hanesydd, Prys Morgan.

“Ffigwr tadol”

“Mae Cymru nid yn unig wedi colli gwleidydd arbennig, ond hefyd wedi colli ffigwr tadol,” meddai Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones.

“Mewn sawl ffordd doedd Rhodri ddim fel gwleidyddion eraill, a dyna pam oedd pobol yn ei hoffi, yn ymddiried ynddo ac yn teimlo fel eu bod yn ei adnabod yn dda. Roedd e’n ddoniol, glyfar a’n hollol angerddol am bopeth Cymreig.”

“Cawr Llafur Cymru”

“Rydym wedi colli ffrind da, dyn da, ac uwchben popeth arall, cawr ymysg mudiad Llafur Cymru,” meddai arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn.

“Roedd Rhodri yn hynod o effeithiol fel Prif Weinidog Cymru. Roedd yn sefyll i fyny dros Gymru, ei bobol a’u gwasanaethau cyhoeddus. Cafodd cymaint ei wireddu yn ystod ei ddegawd yn y swydd, wrth iddo lwyddo â datganoli a sefydlu sylfaen i’r hyn sy’n cael ei wireddu gan Lywodraeth Cymru heddiw.”

“Meistr brawddegau bachog”

“Mae clywed am farwolaeth Rhodri Morgan yn dipyn o sioc,” meddai yn-arweinydd y Blaid Lafur yng Nghymru a Chomisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru, Alun Michael.

“Fe oedd gwleidydd mwyaf poblogaidd ei genhedlaeth ac mi oedd yn feistr o frawddegau bachog. Fe arweiniodd Llywodraeth Cymru a’r Cynulliad trwy gyfnodau tymhestlog at sefydlogrwydd, a sefydlodd sylfaen gadarn ar gyfer Carwyn Jones a’r llywodraeth bresennol.”

“Gwleidydd craff a medrus”

“Roedd e’n gwmni arbennig, yn llawn straeon rhyfeddol ac yn wleidydd craff a medrus,” meddai Cyn-brif Weinidog Llafur y Deyrnas Unedig, Tony Blair.

“Bu’n rhaid iddo arwain Llywodraeth Cymru yn ystod cyfnod anodd ac mi arweiniodd mewn modd medrus. Byddwn yn gweld eisiau Rhodri, a chydymdeimlaf â’i wraig a’i deulu.”

Arweinydd cenedl hyderus

“Rhodri Morgan, yn fwy na neb, a siapiodd y Gymru gyfoes,” meddai Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws. “O dan ei arweiniad ef, fe welsom Cymru’n tyfu’n genedl hyderus ym mlynyddoedd cynnar datganoli, a’i weinyddiaeth ef a baratôdd y ffordd ar gyfer creu Llywodraeth â’i phwerau deddfu ei hun.

“O safbwynt yr iaith Gymraeg, mae’n debyg mai cyhoeddiad Iaith Pawb yn 2003 a’r cynnydd yn y buddsoddi yn yr iaith Gymraeg yw’r cyfraniad mwyaf arwyddocaol. Wrth gyhoeddi’r cynllun gweithredu hwn fe ddangosodd bod Llywodraeth Cymru’n mynd ati’n strategol i gynyddu defnydd o’r iaith Gymraeg a bod yr iaith yn drysor cenedlaethol i’w chadw a’i meithrin.