Mae adroddiad pwyllgor y Cynulliad yn “gyfraniad pwysig” i’r ddadl ynghylch cyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, meddai Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.

Mae’r ymgyrch, a gafodd ei sefydlu ym mis Gorffennaf 2015, yn gosod tri phrif nod i bolisi Llywodraeth Cymru, sef cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg i un miliwn, atal yr allfudiad o Gymru a chynnal cymunedau, a defnyddio’r Gymraeg ym mhob rhan o fywyd.

Cafodd yr ymgyrch gefnogaeth y pedair prif blaid wleidyddol yn y Cynulliad – Llafur, y Ceidwadwyr, y Democratiaid Rhyddfrydol a Phlaid Cymru – cyn yr etholiadau diweddaraf, ac mae’n bolisi Llywodraeth Cymru erbyn hyn.

Cynnydd

Dywedodd Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, Heledd Gwyndaf mewn datganiad eu bod nhw “ar y cyfan… yn croesawu’r adroddiad fel cyfraniad pwysig i’r ddadl ynghylch y strategaeth iaith”.

“O ran y gyfundrefn addysg, mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud y synau iawn: maent yn mynd i ddileu Cymraeg Ail Iaith a sefydlu un cymhwyster Cymraeg i bob disgybl erbyn 2021 ac maen nhw wedi sôn am flaenoriaethu’r gweithlu addysg.

“Y prawf nawr yw’r gweithredu. Y nod heb os yw sicrhau bod pob disgybl yn gadael yr ysgol yn medru’r Gymraeg a sicrhau bod ysgol cyfrwng Cymraeg o fewn cyrraedd i bob disgybl.

“Mae angen newidiadau radical os rydym i lwyddo. Mae’n bwysig bod y gwleidyddion yn sylweddoli bod symud ysgol lan y continwwm o ran darparu fwyfwy drwy gyfwng y Gymraeg yn gorfod bod yn rhan ganolog o unrhyw strategaeth i dyfu’r iaith.  

“Mae modd dadlau bod pob strategaeth iaith flaenorol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru wedi methu oherwydd diffyg gweithredu – allwn ni ddim fforddio un arall.

“Mae’r nod o greu’r filiwn o siaradwyr yn hollol bosib ei gyflawni os yw’r gweithredu’n ddigonol. Os gwelwn ni hynny, rydyn ni’n ffyddiog y gwelwn ni ymhell dros filiwn o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru, a hynny cyn 2050.”